|
Beth Ydym Ni?
Ym 1999, cyfrannod yr Adran Iechyd arian at nifer bychan o dimau nyrsio plant yn y
gymuned er cof am Diana, Tywysoges Cymru. Gelwir y rhain yn Wasanaethau Nyrsio Plant
Diana. Nod y daflen hon yw egluro rôl y tîm o nyrsys syn darparur gwasanaeth
hwn yng Ngogledd Cymru, sut i gysylltu â nhw a sut i gael mynediad ir gwasanaeth.
Sefydlwyd y gwasanaeth i roi cefnogaeth i blant a phobl ifanc (0 - 19 oed) â chyflwr
syn bygwth neun cyfyngu ar eu bywydau. Maer gefnogaeth hon ar gael
iw teuluoedd hefyd.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
 | weithio ar y cyd gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol a rhieni, er mwyn cefnogi
teuluoedd i ofalu am eu plant.
|
 | ddarparu gofal nyrsio o safon uchel syn benodol ir plentyn unigol.
|
 | gefnogi teuluoedd ac asiantaethau gyda rhaglenni addysg a hyfforddiant fesul unigolyn
neu grwpiau.
|
 | weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer pob asiantaeth i atal dyblygu gwasanaethau. Gwneir
hyn trwy weithio gydag asiantaethau eraill i archwilior adnoddau sydd ar gael. |
|