System Cyferio

 

System Atgyfeirio

Rydym yn gweithredu system atgyfeirio a gallwn dderbyn atgyfeiriadau gan unrhyw un ac o unrhyw ffynhonnell.


Os byddwch chi’n dymuno atgyfeirio, byddwn angen gwybod y canlynol

Enw:
Cyfeiriad:
Dyddiad Geni:
Rhif Ffôn Cartref:
Diagnosis (os yw’n hysbys):
Rheswm dros atgyfeirio ac enw’r sawl a atgyfeiriodd:

Mae angen caniatad y plentyn neu’r rhieni cyn unrhyw atgyfeiriad.


Dylid anfon atgyfeiriadau at:

Lynn Reynolds
Gweinyddwraig Nyrsys Diana
Tý Catherine Gladstone
Ffordd Penarlâg, Mancot
Glannau Dyfrdwy CH5 2EP
Ffôn: 01244 538883 Ffacs: 01244 538884
e:bost Lynne.Reynolds@new-tr.wales.nhs.uk
www.fda.dial.pipex.com/com/dns

Byddwn yn cydnabod derbyn yr atgyfeiriad o fewn 5 niwrnod gwaith.

Bydd aelod o’r Gwasanaeth Nyrsio Plant Diana yn cysylltu â’r teulu i drefnu ymweliad â’r cartref i drafod anghenion y plentyn a’r teulu.

Bydd anghenion pob plentyn a theulu’n wahanol a bydd y Gwasanaeth Nyrsio Plant Diana yn ceisio ateb y rhain mewn dull hyblyg a sensitif.

Os na fydd y teuluoedd angen y gwasanaeth ar yr adeg honno, gallan nhw ofyn am gael eu hadolygu. Byddan nhw’n cael enw nyrs benodol a rhif ffôn cyswllt ac ar adegau penodol, bydd y nyrs bersonol yn cysylltu â’r teulu i weld a fydd eu hanghenion wedi newid.

Gwybodaeth Am Y Plentyn

Er mwyn gweinyddu’r gwasanaeth a chynllunio gwasanaethau’r dyfodol, rhaid i ni gadw rhywfaint o wybodaeth ar gyfrifiadur. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid rhannu’r wybodaeth hon gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal y plentyn. Ni fyddwn yn gwneud hyn heb ganiatâd y rhieni a’r plant.

Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion

Os na fyddwch chi’n hapus gyda’r gwasanaeth, a fyddech chi cystal â chysylltu â Gweinyddwraig Tîm Nyrsio Diana.

Fel gwasanaeth sy’n datblygu yn y gymuned, croesewir unrhyw ymateb ynglyn â gwelliannau posibl.

Mae gan bob Ymddiriedolaeth Iechyd ei gweithdrefn gwynion ffurfiol ei hun. Gellir cael y rhain gan:

Mrs Ita Hawkings, Rheolwraig Cyswllt Cleifion, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, Ysbyty Maelor, Wrecsam LL13 7TD Ffôn: 01978 725598.

Vicky Alun-Jones, Rheolwraig Gwasanaethau Cleifion, Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych, Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl LL18 5UJ Ffôn: 01745 534140.

Caroline Frain, Rheolwraig Cwynion, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd LL57 2PW Ffôn: 01248 384194.

 

Home ]
© Diana Children's Nursing Service 2000   E-mail: Lynne.Reynolds@new-tr.wales.nhs.uk
Page last updated 08 March, 2000
Webkeeper: David N Jones  Site hosted by Flintshire Disability Action